SL(6)484 – Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth sy’n ategu Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007 (“Gorchymyn 2007”), Rheoliad yr UE 1099/2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd (“Rheoliad yr UE”) a Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno gofynion ar weithredwyr lladd-dai (“gweithredwyr busnes”) yng Nghymru i osod a gweithredu system teledu cylch cyfyng (“TCC”) ym mhob ardal lle mae anifeiliaid byw yn bresennol (rheoliad 3). Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr busnes gadw lluniau TCC a data cysylltiedig am gyfnod o 90 o ddiwrnodau. Rhoddir pwerau i arolygwyr i’w gwneud yn ofynnol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Mae hyn yn cynnwys pwerau arolygu ac ymafael pan fo arolygydd wedi cael mynediad i fangre i weithredu a gorfodi Rheoliadau 2014, Rheoliad yr UE neu Orchymyn 2007 (rheoliad 5) a phwerau i ddyroddi hysbysiadau gorfodi (rheoliad 6). Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer apelau sy’n ymwneud â hysbysiadau o dan reoliad 6, ac mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â hysbysiadau. Mae rheoliadau 9 a 10 yn darparu bod torri rheoliadau 3 a 4, methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi a rhwystro arolygwyr yn droseddau. Mae rheoliadau 11 i 14 yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â throseddau ac erlyniadau.
Daw’r Rheoliadau i rym at ddibenion rheoliadau 1 i 4 ar 1 Mehefin 2024 ac at bob diben arall ar 1 Rhagfyr 2024.
Y weithdrefn
Cadarnhaol
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol, mae’r Rheoliadau hyn yn mynd i’r afael â chamgymeriadau a nodwyd yn y rhai a osodwyd ar 12 Mawrth 2024 ac a dynnwyd yn ôl wedyn.
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Rydym yn nodi bod rheoliadau cymharol eisoes ar waith mewn mannau eraill yn y DU. Daeth Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Lloegr) 2018 i rym mewn perthynas â lladd-dai yn Lloegr yn 2018 a daeth Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Yr Alban) 2020 i rym yn 2021, mewn perthynas â lladd-dai yn yr Alban.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
8 Mai 2024